Darlithydd / Uwch-ddarlithydd mewn Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol
- Rhif y Swydd
- SU00304
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £38,205 i £54,395 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 31 Mai 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 25 Meh 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Prof Joanne Hudson joanne.hudson@swansea.ac.uk
- Dr Richard Metclfe r.s.metcalfe@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Er mwyn cyflawni ei huchelgais cynaliadwy o fod yn un o'r 30 o brifysgolion gorau, mae angen ar Brifysgol Abertawe weithlu â'r sgiliau amrywiol angenrheidiol i sicrhau ei bod yn gallu cyflawni rhagoriaeth mewn ymchwil, addysgu, dysgu a phrofiad ehangach y myfyrwyr; ac i fod yn bwerdy ar gyfer economi'r rhanbarth ac yn rhyngwladol.
Ar hyn o bryd, mae gan Adran y Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff 22 o staff academaidd sy'n gweithio mewn amgylchedd amlddisgyblaethol, gan hwyluso rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang. Ar hyn o bryd, rydym yn mynd drwy gyfnod o dwf, gyda phwyslais ar ein rhaglenni ôl-raddedig. Yn 2025, byddwn yn lansio rhaglen MSc a addysgir mewn Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol.
Fel rhan o'r cynllun twf uchelgeisiol, mae'r Adran am benodi Darlithydd /Uwch-ddarlithydd mewn Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol a fydd yn gwneud cyfraniadau neilltuol at ymchwil, addysg a gwaith gweinyddol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus rôl allweddol wrth ddatblygu a sefydlu'r MSc newydd mewn Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol a bydd hefyd yn cyfrannu at ein rhaglen israddedig mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff sydd wedi'i hachredu gan BASES.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sy'n gallu dangos tystiolaeth o arbenigedd mewn datblygu a chynnal iechyd corfforol a lles drwy weithgarwch corfforol a hyfforddiant ymarfer corff drwy gydol oes, yn enwedig mewn poblogaethau clinigol. Rydym yn gwahodd ceisiadau gan unigolion sy'n gallu dangos sylfaen gwybodaeth ddamcaniaethol gref a phrofiad ymarferol o weithio gyda charfannau clinigol, gan gynnal gwerthusiadau clinigol priodol a rhagnodi ymyriadau priodol ar sail tystiolaeth. Byddai profiad o asesiadau gofal iechyd, yn enwedig profion ymarfer corff cardio-pwlmonaidd (CPET) a phrofiad o weithio gydag o leiaf un o'r cyflyrau bras canlynol yn ddymunol: canser, clefyd cardiofasgwlaidd, eiddilwch, clefyd yr arennau, iechyd meddwl, cyflyrau metabolig, cyhyrysgerbydol, niwrolegol, resbiradol. Rydym yn croesawu'n benodol geisiadau gan ymgeiswyr â phrofiad mewn cyflyrau cardiofasgwlaidd, cyflyrau niwrolegol neu ganser.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â chymuned ffyniannus o academyddion yn y Grŵp Ymchwil Ymarfer Corff, Meddygaeth ac Iechyd, gan elwa ar gyfleusterau ardderchog i gefnogi ymchwil ac addysgu.
Llwybr Gyrfa Academaidd
Mae'r swydd hon ar lwybr Ymchwil. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein gan ddarparu tystiolaeth ar gyfer y meini prawf hanfodol yn y ddogfennaeth. Dylai ymgeiswyr hefyd atodi i'r cais Curriculum Vitae, rhestr o gyhoeddiadau ac amlinelliad o'u strategaeth ymchwil.